Cyswllt/Gosod

Cyswllt Cyffredinol

GOSOD cyswllt  isod. Rydym yn croesawu eich cwestiynau, sylwadau a chefnogaeth ar fywyd a gweithgaredd y Crynwyr. Am y rhai hyn yn unig (NID Gosod), gallwch e-bostio  ni yma YMHOLIADAU CRYNWYR  (enquiriesatbangorquakersdotorgdotuk)  .

GOSOD

Ystyriwn ein Tŷ Cwrdd fel adnodd cymunedol. Mae nifer o grwpiau yn defnyddio’r adeilad yn rheolaidd ac eraill yn llogi ar gyfer achlysuron arbennig. Cynigir y Tŷ Cwrdd i fudiadau cymunedol sydd ag amcanion sy’n debyg i gredoau ac egwyddorion Cymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr).

Mae’r stafell gwrdd fawr yn addas i 50 o bobl. Yna, yng nghefn yr adeilad mae ein Llyfrgell, sy’n addas i hyd at 10 o bobl. Mae’r ddwy stafell wedi eu carpedi. Yn gyfleus ar gyfer y ddwy stafell mae’r cyntedd mewnol ble gellir gweini bwyd a diod, gydag agorfa o’r gegin. Mae’r toiledau gyferbyn. I fyny’r grisiau, mae ystafell gyfarfod lai o faint, gyda sinc, a thoiled plant. Mae’r llawr gwaelod i gyd yn hygyrch i gadair-olwyn. Cynigir Wi-fi am ddim. Mae manylion mewngofnodi ar yr hysbysfyrddau yn y lobi a’r Llyfrgell.

Lluniau a Chynllun

Gweler, os gwelwch yn dda, siart o’n ffioedd newydd o’r 1af Gorffennaf 2023 YMA.

Telerau ac Amodau

  • Cyfrifoldeb Cymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr), Bangor yw sicrhau fod yr adeilad ac unrhyw offer sy’n eiddo i’r Tŷ Cwrdd yn ddiogel.
  • Ni fedr y Crynwyr derbyn atebolrwydd am unrhyw weithgarwch gan y rhai sy’n llogi’r ystafelloedd. Felly, cynghorir y rhai hynny sy’n llogi’r adeilad i sicrhau fod eu hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn addas a digonol ar gyfer unrhyw weithgarwch, a’u bod yn gyfrifol am unrhyw offer maent yn dod i mewn i’r adeilad neu unrhyw ddifrod a wneir i’r adeilad. Er hynny, erbyn hyn,  mae ein hyswyriant  yn diogelu llogwyr  achlysurol.
  • Gwaharddir unrhyw hapchwarae, ac yfed diodydd alcohol yn yr adeilad; ni chaniateir ysmygu yn yr adeilad nag ar dir y Tŷ Cwrdd.
  • Ni chaniateir llogi ble hyrwyddir syniadau hiliol neu filitariaeth.
  • Ar hyn o bryd, ni chaniateir i bleidiau gwleidyddol unigol logi’r adeilad. Serch hynny, rydym yn cynnig yr adeilad ar gyfer cyfarfodydd amlbleidiol fel hustyngau.
  • Does dim gofalwr parhaol yn y Tŷ Cwrdd, felly mae’n bwysig i drefnu derbyn allwedd key fob neu passcode, ac i sicrhau fod ganddoch chi’r holl wybodaeth sydd ei angen cyn cyrraedd.
  • Gofynnir i’r rhai sy’n llogi’r adeilad fod yn oddefgar i ddefnyddwyr eraill, ag i’n cymdogion. Ar ôl archebu’r adeilad fe’ch cynghorir i lawr lwytho a darllen CANLLAWIAU PDF.

Taliadau

Gweler, os gwelwch yn dda, siart o’n ffioedd newydd o’r 1af Gorffennaf 2023 YMA.

Canllawiau Archebu

Cyn cysylltu â ni, yn gyntaf edrychwch ar y CALENDR GOSOD, I WELD OS YW’R STAFELLOEDD YN RHYDD AR Y DYDDIADAU RYDYCH CHI’N DYMUNO, yna cysylltwch gyda’r Swyddog Gosod trwy E-BOST  (lettingsatbangorquakersdotorgdotuk)   (neu gadewch lais bost/tecst ar 07541 563263). Bydd y Swyddog Gosod yn sicrhau’r archeb briodol ac yn eich cynghori ynglŷn â thaliadau, mynediad, dihangfa dân, sut i ddychwelyd allwedd, gwresogi, a gofynion yswiriant atebolrwydd ar wahân.

Mae’n well ganddon ni dderbyn taliad trwy BACS, ond rydym yn derbyn sieciau, i’w hanfon at y Swyddog Gosod, fydd yn trafod manylion a threfniadaeth.

Ar gyfer gwybodaeth tra’n defnyddio’r Tŷ Cwrdd, lawr lwythwch CANLLAWIAU PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ymarferol ar Gyrraedd y Tŷ Cwrdd, Iechyd a Diogelwch (sy’n cynnwys Rhagofalon Tân ac Ymgilio), Defnydd o’r Gegin, Canllawiau ymarferol a Gofal, Adborth, Gadael y Tŷ Cwrdd, a phwy i gysylltu Mewn Argyfwng

CLODRESTR GWEFAN

Gwebost (Webmail)

Mewngofnodi webost

Clodrestr

Llun pennyn trwy garedigrwydd ‘Mike’

Llun y Tŷ Cwrdd trwy garedigrwydd Martin Morley

Gwefeistr Nick Jewitt – EMAIL  (webmasteratbangorquakersdotorgdotuk)  

Gwe-letya

Gwe-leteir y wefan hon ar weinyddion carbon niwtral yng ngoledd Lloegr. Cliciwch ar y llun isod am fwy o wybodaeth.

Planting trees every month with Eco Web Hosting