Crynwyr

Am y Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Crynwyr)

Mae Cyfeillion Bangor yn ymgynull ardydd Sul a dydd Mawrth –a weithiau ar ddyddiau eraill –ar gyfer yr hyn a alwn yn ‘Gwrdd Addoli’.

Bydd y mwyafrif o’r Cyfeillion yn son am ‘yr hyn sydd o Dduw yn mhawb’, ‘y goleuni mewnol’, a’r ‘daith ysbrydol’. Caiff lawer ohonom ein hysbrydoli gan fywyd Iesu o Nasareth, a thrwy ddysgeidiaeth doeth pobl o wahanol gredoau a diwylliannau.

Mae’r gred bod ‘yr hyn sydd o Dduw ym mhawb’ yn ein tywys i barchu popeth byw, ac felly i wrthwynebu unrhyw beth sydd yn difrio bywyd – rhyfel, trais, gormes, anghyfiawnder, camddefnydd o’r amgylchfyd, a gwerthoedd materol.

Ni ofynnir inni dderbyn unrhyw gredo na ffydd arbennig. Mae’r pwyslais yn gyfangwbl ar brofiad personol. Yn yr 17 ganrif, fe heriodd George Fox, sylfaenydd Mudiad y Crynwyr, ei gyfoeswyr drwy ddweud, ‘Fe ddywedi di “Fel hyn y dywed Crist, ac fel hyn y dywed yr apostolion”, ond beth a elli di ei ddweud?’

Fel unigolion, dichon inni wahaniaethu yn ffurf y geiriau sydd o gymorth inni, ac yn y delweddau a ddefnyddiwn, ond ni olyga hyn y gwnaiff “rhywbeth y tro”. Yr ydym wedi’n hymrwymo i’r gwerthoedd a’r arweiniad a dyfodd dros dair canrif o gasgliad eang o ysgrifau’r Crynwyr. (Mae’r rhain i’w cael mewn llyfr o dan y teitl Quaker Faith and Practice o Friends House, 173 Euston Road, London NW1 2BJ).

Esiampl arall o’r cyfarwyddyd hwn yw’r ol-ysgrif o ganlyn a gyfeirwyd at y ‘brodyr yn y Gogledd’, gan Henaduriaid Cwrdd Crynwyr Balby yn 1656:

Annwyl Gyfeillion cariadus, ni osodwn mo’r pethau hyn arnoch megis rheol neu ffurf i’w dilyn, ond fel y cyfarwydder pawb, yn ol y mesur o oleuni sy’n bur a glan; a chan gerdded a thrigo yn y goleuni, fel y cyflawner y pethau hyn yn yr Ysbryd, ac nid yn ol llythyren, canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr Ysbryd sy’n bywhau.