Gweler, os gwelwch yn dda, ein diweddariad am amddifyniad o’r coronafirws trwy glicio neu dapio yma
Er mwyn diogelu pobl cymaint ag y gallwn rhag ymlediad y firws, mae Crynwyr Bangor yn dilyn cyngor ein pwyllgorau canolog ac yn atal Cyfarfodydd Addoli am y tro.
Er hynny, fe fyddwn yn ymuno mewn ysbryd yn ein cartrefi yn ystod yr oriau arferol, 10.30–11.30 ar Ddydd Sul, a 1.00–1.45 ar Ddydd Mawrth, ac rydym yn gwahodd pawb i ymuno a ni yn ystod y cyfnodau hynny yn eich cartrefi.
Gobeithiwn y bydd Cyfeillion yn cadw cysylltiad rheolaidd dros o ffôn, e-bost a.y.b., gan fod yn ymwybodol fod Cyfeillion hŷn angen cymorth ymarferol e.e., shopio.
Dyma gyfnod pan allwn ddal pawb sy’n dioddef yn y Goleuni, a pheidio cael ein tynnu i’r teimlad cyffredinol o bryder a phanig.
Fe bery ein Cwrdd Addoli am awr bob Sul, gan ddechrau am 10:30 y bore
Tawelwch yw hanfod ein haddoliad ond mae pawb yn rhydd i gyfrannu os teimlant wedi eu symbylu i wneud hynny. Weithiau fe bery y tawelwch am yr awr gyfan.
O’r distawrwydd daw llonyddwch a nerth i’n cynnal yn ein bywyd beunyddiol. Mae addoliad yn rhan sylfaenol o’n bywydau ac nid ydym yn gwahaniaethu rhwng y sanctaidd a’r bydol. Mae croeso i blant – EBOSTIWCH (enquiriesbangorquakersorguk) ni ar cyn y cyfarfod os ydych yn bwriadu dod â hwy.
Croeso y bawb i’n Cyfarfodydd
Mae yna hefyd cyfarfod ganol wythnos ar ddydd Mawrth 1:00-1:45 yh prynhawn lle mae grwp llai yn ymgynnull i werthfawrogi amser tawel yng nghanol prysurdeb ein bywydau beunyddiol.
O bryd i’w gilydd cynhelir grwpiau trafod yn y Ty Cwrdd ar bynciau amrywiol. Edrychwch yn ein dyddiadur am unrhyw rai wedi eu rhestru ar hyn o bryd.
Mae croeso i bawb ym mhob un o’n cyfarfodydd, a mae mynediad llawn i’r anabl wedi ei sicrhau ar lawr isaf y Ty Cwrdd. Yn yr ystafell ymgynnull mae darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw.
Mae gennym lyfrgell cynhwysfawr gydag amrywiaeth eang o lyfrau’r Crynwyr ac eraill ar gael i’w benthyg.
SUT I DDOD O HYD I NI YN Y TY CWRDD YN STRYD Y DEON, BANGOR LL57 1UR
© 2010 Micromap/Microsoft Corporation
Cliciwch yma i gweld y map rhyngweithiol